

Cynhelir Proms Cymreig Caerdydd eleni o 8-16 Gorffennaf a byddant yn cynnwys perfformiadau am ddim, digwyddiadau i’r teulu a chyngherddau cerddorfaol mawr gan y Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol, Cerddorfa Ffilharmonig Caerdydd a Cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru.
Eleni bydd cyngerdd arbennig ar y Noson Agoriadol a fydd yn cynnwys 11 o glasuron byr mwyaf poblogaidd y byd a berfformir gan y Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol. Hefyd, bydd y Cory Band a Chôr Orpheus Treforys yn dod ynghyd ar gyfer Prom Pres a Lleisiau arbennig ddydd Mercher 13 Gorffennaf.
Bydd digonedd o ddigwyddiadau ymylol am ddim y Proms Cymreig yn digwydd yn Lolfa L3 Neuadd Dewi Sant a bydd Hwyl i’r Teulu gyda’r ‘Tiddly Prom’ dyddiol (heblaw 10 Gorffennaf), a'r Prom Teuluol poblogaidd ddydd Sadwrn 9 Gorffennaf (7pm).
Bydd Bernstein, Gershwin a John Williams yn rhan o’r Proms Americanaidd ar 14 Gorffennaf a bydd Noson Ola’r Proms Cymreig enwog yn gorffen pethau gyda noson o falchder a chaneuon Cymreig.
Gellir prynu tocynnau yn y swyddfa docynnau ar 029 2087 8444 neu ar-lein yn www.stdavidshallcardiff.co.uk
CYFLEUSTERAU
![]()
![]()
![]()
![]()