

Yn ystod haf gwlyb a diflas 2007, diflannodd y cymylau am un diwrnod arbennig i adael i’r heulwen ogoneddus ddisgleirio ar Gymru. Fe wnaeth hyn baratoi’r ffordd ar gyfer un o’r digwyddiadau mwyaf unigryw yn hanes Caerdydd, sef y Cynulliad Amlddiwylliannol cyntaf. Mae’r digwyddiad cymunedol a chydlyniant cymdeithasol hwn yn agored i bawb o bob oed a lliw. Llynedd denodd y Cynulliad Amlddiwylliannol ym Mae Caerdydd fwy na 14,000 o ymwelwyr gan ei wneud y digwyddiad mwyaf o’i fath yng Nghymru. Bydd digwyddiad 2010 yn fwy ac yn well! Mae’r Cynulliad Amlddiwylliannol yn rhoi llwyfan i ystod eang o ddiwylliannau, cerddoriaeth, dawns, celfyddyd, ffasiwn a bwyd i enwi dim ond rhai. Er mai gwreiddiau’r Cynulliad Amlddiwylliannol ydy diwylliannau Asiaidd, mae hon yn wyl i bawb a’i nod yw addysgu, rhannu a dathlu’r holl ddiwylliannau.
CYFLEUSTERAU
![]()
![]()
![]()
![]()
![]()
8 Awst 2010
12-7pm
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF10 5AN
MYNEDIAD AM DDIM
(efallai y bydd costau ynghlwm â rhai gweithgareddau)
Manylion Mynediad:
• Parcio i’r Anabl gerllaw
• Mynediad Gwastad ledled Plas Roald Dahl
• Toiledau i’r Anabl ar y safle