

“Bydd Cwmni Theatr Everyman enwog Caerdydd yn cyflwyno ei Ŵyl Theatr Haf yn Amgueddfa Werin Cymru. Mae’r rhaglen anturus eleni yn cynnig rhywbeth at ddant pawb yr haf hwn.
6-16 Gorff
The Pirates of Penzance
gan W.S. Gilbert & Sir Arthur Sullivan
Mae’r ŵyl eleni yn dechrau gyda 'Pirates of Penzance' – gwledd o ddireidi môr ladron ac arlwy hyfryd o gerddoriaeth yng nghwmni hoff gymeriadau doniol Gilbert a Sullivan.
20 – 30 Gorff
The Comedy of Errors
gan William Shakespeare
Yn 'The Comedy of Errors' gan Shakespeare mae dwy set o efeilliaid, gwragedd cenfigennus, landledis a gwerthwyr twyllodrus yn gwneud llanast yn Ephesus-on-Sea – man lle nad oes neb yn sicr pwy yw pwy a beth yw beth!
23 - 30 Gorff
Old King Cole
gan Ken Campbell
Ein sioe arbennig i blant yw ‘Old King Cole’. Mae’r hen Frenin yn cyhoeddi cystadleuaeth i ganfod gŵr i’w ferch, y Dywysoges Daphne. Mae’r Faz truenus a’i gynorthwyydd gwan ei feddwl Twoo yn cynllwynio er mwyn helpu Barwn Wadd eiddil i briodi Daphne.
I gael manylion am ddyddiadau ac amseroedd y perfformiadau, prisiau tocynnau ac i archebu ar-lein ewch i:
CYFLEUSTERAU
![]()
![]()
![]()
![]()
![]()
6 – 30 Gorffennaf 2011
Amgueddfa Werin Cymru
Sain Ffagan
Caerdydd
CF15 6XB
(029) 2087 8442
(Dydd Llun i Ddydd Sadwrn rhwng 9.30am a 5.30pm)
Mae pob sedd dan do ac
wedi eu rhifo



