Lle I Fwyta Ac Yfed

Mae gan Gaerdydd enw da o ran bwytai, â chogyddion yn ddigon ffodus i allu coginio â'r cynnyrch Cymreig gorau. Yn Ardal y Bragdy yng nghanol y Ddinas gallwch fwyta ac yfed tu allan mewn amrywiaeth o fwytai - o dapas i Thai – gallwch hefyd brynnu atgof o’ch ymweliad â’r ddinas o Hard Rock Café! Pe bai rhywun yng Nghaerdydd yn dweud wrthych eu bod eisiau Brains, peidiwch â dychryn, maent yn cyfeirio at y bragdy lleol, sy’n cynhyrchu peint gorau’r ddinas. Mae ardaloedd bywiog Heol Eglwys Fair, Lôn y Felin a Chei'r Fôr-Forwyn yn llawn bariau, clybiau a bwytai.