Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd – Ar agor i’r cyhoedd

Agoriad Dŵr Gwyn Rhyngwladol o safon Olympaidd Caerdydd, a fydd yn rhoi i’r ddinas ganolfan rafftio o’r radd flaenaf - canolfan chwaraeon bwysig arall i Gaerdydd.

Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd (DGRhC) fydd yr unig gyfleuster rafftio dŵr gwyn ar ofyn yn y DU, ac mae eisoes yn denu sylw pobl sy’n ceisio antur dŵr gwyn i danio’r adrenalin.

Gall anturiaethwyr o bob safon brofi a mwynhau'r cyfleuster hwn, sydd gyda'r gorau'n y byd ac wedi ei leoli yng nghalon Pentref Chwaraeon Rhyngwladol Bae Caerdydd.

Bydd y cwrs rafftio dŵr gwyn 250 metr o hyd yn cynnig amrywiaeth llif afon, gan ei wneud yn addas ar gyfer pob oed a gallu.

Bydd DGRhC hefyd yn cynnig ardaloedd dŵr gwastad i’r sawl sy’n chwilio am sialens mwy sidêt. Profwch rafftio a chwaraeon rhwyfo eraill, o’r dof i’r gwyllt, mewn amgylchedd diogel llawn hwyl gyda rhywbeth at ddant pawb...

more info...

27 Mawrth 2010

Pentref Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd, Bae Caerdydd
Caerdydd

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

calennig