Calendar Girls

Calendar Girls yw un o’r sioeau sy’n gwerthu gyflymaf ac mae wedi bod yn llwyddiant ysgubol yn y West End. Nawr mae’n dod i Ganolfan Mileniwm Cymru a’r sêr fydd Denise Black, Jean Boht, Jennifer Ellison, Julia Hills, Ruth Madoc, Elaine C Smith gyda Joe McGann fel John, ac un sy’n agos iawn at galon y Cymry, Margaret John fel Lady Cravenshire.

Mae grŵp o fenywod cyffredin yn gwneud rhywbeth arbennig o anghyffredin trwy berswadio’i gilydd i fod yn rhan o galendr gwahanol i’r arfer. Yn seiliedig ar stori wir, ysbrydoledig, mae Calendar Girls yn sioe deimladwy, hynod a doniol iawn. Dyma’r sioe gafodd ei disgrifio gan y Mail on Sunday fel “marvellous theatre, guaranteed to make you laugh, cry and come out singing Jerusalem”. Mae galw mawr wedi bod am docynnau Calendar Girls cyn i’r sioe agor mewn theatrau blaenorol, felly archebwch heddiw i sicrhau’ch sedd chi.

 

www.wmc.org.uk


CYFLEUSTERAU

toilets near or on sitefood & drink availabledisabled accessno smokingparking nearbyno dogs except guide dogs

wmc

27 Gorff - 7 Awst 2010

Canolfan Mileniwm Cymru
Caerdydd
CF10 5AL

Tocynnau:
08700 40 2000

Llun - Mer 7.30pm, Iau 2.30pm Tocynnau: £12.50, £15, £20, £24.50, £27.50

Iau - Sad 7.30pm, Sad 2.30pm Tocynnau: £15, £17.50, £24, £27, £30

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Calendar Girls