

Bydd modd gweld arddangosfa o Geir Clasurol sy’n dyddio yn ôl dros y ganrif ddiwethaf ym Mhlass Roald Dahl.
Hefyd, bydd cyfle i siarad â’r perchnogion, ac ymuno â nhw i ddathlu hanes modura!
Peidiwch â cholli’r cyfle i weld amrywiaeth o gychod modur ysblennydd gyda nifer ohonynt yn hwylio dyfroedd Bae Caerdydd mewn arddangosiadau ac arddangosfeydd. Mae'r lleoliad gwych yn ddelfrydol i weld y cychod, yn ogystal â darparu ardal ragorol i’n haelodau gael dangos eu cychod i’r cyhoedd gan ddod â mwy fyth o fywyd i’r Bae.
Bydd aelodau o’r Gymdeithas Cychod Modur Clasurol hefyd yn arddangos eu cychod brynhawn Sadwrn 14 Awst, gan roi cyfle arall i ymwelwyr fwynhau’r arddangosfa glasurol ar y dŵr.
CYFLEUSTERAU
![]()
![]()
![]()
![]()
![]()
![]()
15 Awst 2010
Bae Caerdydd
CF10 5AN
Mynediad am Ddim
Manylion Mynediad:
• Parcio i’r Anabl gerllaw
• Mynediad Gwastad ledled Plas Roald Dahl
• Toiledau i’r Anabl ar y safle

