blysh

Roedd cynulleidfaoedd gŵyl Blysh gyntaf Canolfan Mileniwm Cymru y llynedd yn cytuno ein bod wedi gwireddu’n haddewid i roi'r gwrid yn ôl ar eu gruddiau. Ac rydym eisiau Blysh i fod yn rhan sefydlog o’r gylchdaith gwyliau - ac felly dyma ni ym 2010 ac mae Blysh yn ôl.

Gŵyl o adloniant carnifal a fodfil yw Blysh, sy'n cyflwyno'r comig a'r cabarae, y boncyrs a'r bisâr. Bydd yna lond trol o fisdimanars annisgwyl yn digwydd yn Stiwdio Weston - yn ogystal â pherfformiadau stryd a theatr ddi-dâl y tu mewn ac o amgylch y Ganolfan, y gall pawb gymryd rhan ynddynt. Ymunwch â ni y Gorffennaf hwn i fwynhau'r heulwen....

Ewch i wmc.org.uk i weld y manylion am yr artistiaid wrth iddynt gael eu cadarnhau.

Le Navet Bete
Zemblanity

16 Gorff
Awdl i gelfyddyd clownio du ydy Zemblanity; a gyflwynir ar gyflymder seicedelig, llawn adrenalin.

Mimbre
Until Now
17 Gorff

Mae Mimbre yn cyfuno campau acrobatig gyda theatr a dawns i greu arddangosfeydd prydferth llawn cryfder, sioncrwydd, gosgeiddrwydd a sgil.

Rotozaza
Wondermart
16 – 25 Gorff

Taith 30 munud drwy archfarchnad leol ddinod yw Wondermart. Wrth i chi yrru’ch troli ar hyd yr eiliau, gan ddilyn cyfarwyddiadau o glustffon, byddwch yn ymgolli’ch hun mewn byd hudol mewn lle cyfarwydd.

 

www.wmc.org.uk/blysh


CYFLEUSTERAU

toilets near or on sitefood & drink availabledisabled accessno smokingparking nearbyno dogs except guide dogs

wmc

16 - 25 Gorff 2010

Stiwdio Weston
Canolfan Mileniwm Cymru
Caerdydd
CF10 5AL

www.wmc.org.uk

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mimbreblyshblysh