
Gŵyl Caerdydd 2010 – Rhywbeth i Bawb!
Mae Gŵyl Caerdydd yn gyfres o ddigwyddiadau sy’n cynnwys cerddoriaeth fyw, theatr stryd, theatr awyr agored, adloniant plant a hwyl y ffair. Bydd Gŵyl Caerdydd 2010 yn gymysgedd o ddigwyddiadau hen a newydd a gynhelir yng nghanol y ddinas ac o amgylch Bae Caerdydd. Ymysg y prif ddigwyddiadau bydd Penwythnos Mawr Caerdydd Admiral, Gŵyl Fwyd a Diod Ryngwladol Caerdydd a Gŵyl Harbwr Caerdydd.
Mae nifer o’r digwyddiadau AM DDIM gyda rhywbeth i ddiddori pawb – boed yn breswyliwr lleol neu’n ymwelydd â’n Dinas.
Mae Gŵyl Caerdydd yn cael ei llwyfannu a’i rheoli gan Gyngor Caerdydd ac Awdurdod Harbwr Caerdydd gyda chymorth ein noddwyr, cefnogwyr a phartneriaid.
![]() |